18/06/2026
Rydym angen modelau | Models wanted
(Bilingual post, please scroll for English)
Mae Sea Rae Photography a thŷ a gerddi hanesyddol Nantclwyd y Dre yn chwilio am gwpl sydd newydd ddyweddïo (neu a fydd yn dyweddïo’n fuan) sydd â diddordeb mewn hanes, ailgreadau, naws y Dadeni, neu unrhyw beth sy’n llawn cymeriad ac ychydig yn hen a hynod, i gymryd rhan mewn sesiwn tynnu lluniau dyweddïad ar dir y tŷ tref ffrâm bren rhestredig Gradd I yn Rhuthun.
Yn wreiddiol yn dŷ neuadd canoloesol, mae tu mewn Nantclwyd y Dre wedi ei ail-greu’n ofalus i adlewyrchu bron i 600 mlynedd o hanes, gyda gweddluniau canoloesol, Jacobeaidd, Tuduraidd, Stiwardaidd, Sioraidd, Fictoraidd, a’r 1920au, ynghyd â gerddi cyfareddol sy’n ymddangos fel y dylent fod mewn llyfr stori. Wedi eu cyfuno â llygad a dychymyg artistig Rae a’i ffotograffiaeth eithriadol, mae’r sesiwn tynnu lluniau’n siŵr o greu delweddau trawiadol a chofiadwy.
Felly, os ydych newydd ddyweddïo neu’n bwriadu gofyn i rywun eich priodi, ac y byddech wrth eich boddau’n cael lluniau arbennig mewn lleoliad treftadaeth anghyffredin ar 16 neu17 ap Gorffennaf, cysylltwch â Rae ([email protected]) neu Amy (drwy e-bost: [email protected]).
O.N. Defnyddir delweddau o’r sesiwn at ddibenion marchnata, felly bydd yn rhaid i chi fod yn gyfforddus â hynny.
-------------------------------------------------
Sea Rae Photography and Nantclwyd y Dre historic house and gardens are looking for a newly (or soon-to-be) engaged couple with an interest in history, reenactment, Renaissance vibes, or anything a little old-world and full of character, to take part in a proposal or engagement shoot within the grounds of the Grade I listed timber-framed townhouse in Ruthin.
Originally a medieval hall house, Nantclwyd y Dre features carefully recreated interiors reflecting nearly 600 years of history, offering medieval, Jacobean, Tudor, Stuart, Georgian, Victorian, and 1920s backdrops, along with enchanting gardens that feel straight out of a storybook. Combined with Rae’s artistic eye, imagination, and exceptional photography, the shoot is sure to result in striking and memorable images.
So, if you’re newly engaged or planning a proposal, and would love some distinctive photos in a remarkable heritage setting on the 16th or 17th July, please get in touch with Rae ([email protected]) or Amy (via [email protected])
P.S. Images from the shoot will be used for marketing purposes, so you’ll need to be comfortable being featured.